Nofel antur a ffuglen wyddonol gan yr awdur Jules Verne yw Vingt Mille Lieues sous les mers ("Ugain mil o ligau dan y môr"). Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol mewn cyfres o Fawrth 1869 hyd Mehefin 1870 ym Magasin d'éducation et de récréation, cyfnodolyn pythefnosol Ffrangeg.